Newyddion S4C

Dathlu 100 mlynedd o Glwb Pêl-droed Mountain Rangers

Mountain Rangers 1

Fe fydd clwb pêl-droed lleol ger Caernarfon yn cynnal gêm arbennig ddydd Sadwrn i ddathlu carreg filltir yn hanes y clwb.

Fe gafodd tîm Mountain Rangers ei sefydlu ym mhentref Rhosgadfan yn 1920, ond oherwydd pandemig y coronafeirws, nid oedd modd dathlu'r canmlwyddiant yn 2020.

Dywedodd rheolwr y tîm presennol, Alex Philip fod tîm gwreiddiol y clwb yn cynnwys "pobl pentref Rhosgadfan a phobl oedd yn gweithio yn y chwareli cyfagos."

Fe fydd y gêm arbennig yn cael ei chynnal ym Mharc Cae'r Gors ddydd Sadwrn rhwng y tîm a rhai o sêr Caernarfon o'r gorffennol.

Fe fydd plant ysgolion lleol a'r canwr Dafydd Iwan yno hefyd i ddiddanu'r dorf.

Y cae pêl droed yn Rhosgadfan oedd yr un a welwyd yn nrama gomedi poblogaidd C'mon Midffîld! ar S4C.

Image
Mountain Rangers

Un sydd wedi rhoi oes o gefnogaeth i'r clwb yw un o hoelion wyth y pentref, Ann Wyn Thompson.

Wrth gofio am ei dyddiau yn cynorthwyo'r tîm, dywedodd Ms Thompson ar drothwy'r dathliadau: "Roedd na chwe tîm ar un adeg, pedwar tîm plant, a first and second team - sôn am waith,  oeddem yn mynd ar dillad pêl-droed i gyd i launderette i Dre ac yn eu codi i fynu wedyn ar y ddydd Iau yn barod am y gemau dydd Sadwrn.

Mae cysylltiad Ann Thompson â'r clwb yn un teuluol, gan fod ei diweddar-ŵr, Derek, a Jenny ei merch yn gyn-stiwardiaid bâr y clwb, ac mae ei meibion a'i wyrion wedi chwarae i'r timau.

"Roedd ein dwrnod yn dechrau wyth y bore tan roeddem di cau y bar am hanner nos - diwrnod hir ond dyddiau difyr , roedd na 13 ar committee'r clwb oedd yn rhedeg y pêl-droed, Derek fi ar genod fwya gan mai ni oedd yn gneud y posteri tafleni pedroed printio ai rhoi efoi gilydd nol y petha i neud y bwyd i'r players a hefyd gneud y tê, oxo, coffi a baps i'r cefnogwyr."

Image
Mountain Rangers

"Bob bore dydd llun oedd y dressing rooms ar showers yn cael ei llnau oherwydd dim amser i neud yn gynt.

"Cawsom lawer o hwyl a roedd yr hogia i gyd yn ein parchu a braf di cael ei gweld a pob un ai story, diolch am y dyddiau difyr."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.