Ymestyn cyfnod mechnïaeth y pêl-droediwr Mason Greenwood

Fe fydd y pêl-droediwr Mason Greenwood yn aros ar fechnïaeth tan ganol mis Mehefin wrth i'r heddlu barhau i ymchwilio i honiadau yn ei erbyn.
Cafodd y chwaraewr i Manchester United ei arestio ym mis Ionawr ar amheuaeth o dreisio, ymosod a gwneud bygythiadau i ladd menyw ifanc.
Daeth yr honiadau i'r amlwg wedi i luniau a fideos gael eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol.
Mae Heddlu Manceinion bellach wedi cael cais i ymestyn mechnïaeth y chwaraewr 20 oed, ac mae'r cais wedi ei dderbyn gan y llys.
Mae disgwyl i Mr Greenwood ymddangos yn y llys ym mis Mehefin.
Darllenwch fwy yma.