Newidiadau darlledu: Pobol y Cwm yn rhan 'hanfodol' o arlwy S4C

Newyddion S4C 28/04/2022

Newidiadau darlledu: Pobol y Cwm yn rhan 'hanfodol' o arlwy S4C

Mae'r opera sebon Pobol y Cwm yn rhan "hanfodol" o arlwy S4C, yn ôl Prif Weithredwr y sianel.

Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, dywedodd Sian Doyle fod posibilrwydd y byddai'r sianel yn "gallu 'neud Pobol y Cwm yn ddigidol, neu rywbeth yn hollol wahanol".

Daw hyn wedi i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi papur gwyn ddydd Iau, dogfen sy'n cynnig y posibilrwydd na fydd yn rhaid i'r BBC ddarparu 10 awr o gynnwys y sianel yn y dyfodol.

Ar hyn o bryd, mae'r cynnwys hwnnw yn cynnwys Pobol y Cwm a rhaglenni Newyddion S4C.

Yn ddiweddar, mae'r nifer wythnosol o benodau Pobol y Cwm wedi lleihau o bedair i dair.

Mewn neges ar Twitter nos Iau, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant Nadine Dorries fod y newidiadau sydd wedi eu cynnig yn rhoi "hwb i S4C a darlledwyr eraill i gynhyrchu cynnwys digidol".

Yn ôl Sian Doyle, mae'n gyfle i S4C i ystyried sut mae'r gynulleidfa yn derbyn cynnwys y sianel.

"Mae e jyst yn rhoi'r hyblygrwydd i ni, ac yn rhoi'r cyfle i ni edrych yn wahanol falle ar shwt i ni'n cyfleu ein cynnwys i'n cynulleidfa", meddai Ms Doyle.

Mae Sian Doyle wedi bod yn y rôl ers dechrau'r flwyddyn, wedi iddi olynu’r cyn-Brif Weithredwr Owen Evans.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.