Jamie Wallis, AS Pen-y-bont ar Ogwr, wedi'i gyhuddo o fethu â stopio ar ôl gwrthdrawiad

Mae’r AS Ceidwadol, Jamie Wallis wedi’i gyhuddo o yrru heb ofal a sylw digonol, ac o fethu â stopio yn dilyn gwrthdrawiad ffordd fis Tachwedd y llynedd.
Dywedodd Heddlu'r De fod y digwyddiad honedig wedi digwydd yn ardal Llanfleiddan, ger Y Bont-faen ym Mro Morgannwg.
Ym mis Mawrth, Mr Wallis oedd yr AS cyntaf i ddod allan fel person trawsryweddol.
Cafodd Mr Wallis ei ethol fel AS Pen-y-bont ar Ogwr yn etholiad cyffredinol 2019, gan ddisodli sedd oedd wedi bod yn nwylo Llafur ers tri degawd.
Mae disgwyl i Mr Wallis ymddangos o flaen Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mawrth, 10 Mai.
Darllenwch fwy yma.