Newyddion S4C

Carcharu dynes am achosi anafiadau difrifol wrth yfed a gyrru

27/04/2022
Carchar

Mae dynes wedi ei charcharu am ddwy flynedd a'i gwahardd rhag gyrru am bedair blynedd ar ôl achosi anafiadau difrifol i ddau unigolyn mewn gwrthdrawiad yng Ngwynedd.

Roedd Rhianon Brown, 35 oed, o Malmesbury, Sir Wiltshire yn gyrru Range Rover Evoque pan aeth y cerbyd i mewn i gar arall ar ffordd yr A496 rhwng y Bermo a Harlech fis Awst y llynedd.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r gwrthdrawiad rhwng cerbyd Ms Brown a cherbyd Toyota C-HR.

Fe gafodd pedwar teithiwr yn y Toyota eu cludo i Ysbyty Gwynedd gyda dau wedi eu hanafu'n ddifrifol.

Roedd Brown wedi bod mewn gwrthdrawiad arall ychydig cyn y digwyddiad, ond fe adawodd leoliad y gwrthdrawiad hwnnw.

Cafodd ei chyhuddo o yrru'n beryglus, gwrthod rhoi prawf anadl cychwynnol, achosi anafiadau difrifol drwy yrru'n beryglus, a methu ag aros yn dilyn gwrthdrawiad.

Derbyniodd y ddedfryd yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mawrth ac fe fydd yn rhaid iddi ymgeisio eto am drwydded gyrru ar ôl cael ei rhyddhau o'r carchar.

Yn dilyn y gwrthdrawiad, dywedodd yr Arolygydd Iwan Roberts o Uned Plismona'r Ffyrdd, Heddlu Gogledd Cymru: "Fe allai'r gwrthdrawiad hwn fod wedi bod yn un angheuol yn hawdd. 

"Yn ystod yr ymchwiliad fe geisiodd Brown honni mai nam ar ei cherbyd oedd yn gyfrifol am y gwrthdrawiad, ond fe ddarganfyddwyd ei chelwyddau ar ôl astudio system telematics y Range Rover, oedd yn dangos ei bod yn gyrru ar gyflymder o tua 60mya ac fe arafodd ddwy eiliad cyn y gwrthdrawiad gyda'r Toyota."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.