Menywod yn ddwywaith fwy tebygol o farw o asthma na dynion

Mae menywod yn y DU yn ddwywaith fwy tebygol o farw o asthma i gymharu a dynion, yn ôl ymchwil newydd gan elusen.
Yn ôl Astham + Lung UK, roedd dros dwy rhan o dair o farwolaethau oedd yn gysylltiedig â’r cyflwr yn y pum mlynedd diwethaf yn fenywod.
Rhwng 2014/15 a 2019/20 bu farw 5,100 o fenywod o gyflyrau yn ymwneud ag asthma, i gymharu â 2,300 o ddynion.
Dywedodd yr elusen nad yw dulliau presennol o drin asthma yn gweithio gan nad ydynt yn ystyried effeith hormonau benywaidd ar y symptomau.
Mae'r elusen yn galw am ragor o ymchwil i ddarganfod mwy am effaith rhyw ar symptomau asthma er mwyn rhoi diwedd i'r "anghydraddoldeb rhyw."
Darllenwch y stori'n llawn yma.