Newyddion S4C

Gweld profiadau LHDT+ ar y sgrin ‘mor bwysig’, medd cyfarwyddwr Heartstopper

Gweld profiadau LHDT+ ar y sgrin ‘mor bwysig’, medd cyfarwyddwr Heartstopper

NS4C 26/04/2022

Mae gweld profiadau pobl LHDT+ yn cael eu hadlewyrchu ar y sgrin “mor bwysig”, yn ôl cyfarwyddwr y gyfres 'Heartstopper'.

Mae Euros Lyn, sy’n wreiddiol o Gaerdydd, yn adnabyddus am gyfarwyddo cyfresi megis 'Doctor Who', 'Sherlock' a 'His Dark Materials'.

Ond mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C, dywedodd fod gweithio ar y gyfres Netflix 'Heartstopper' yn un o uchafbwyntiau ei yrfa hyd yma.

“Mae ‘di bod gydag un o’r profiadau mwya’ hyfryd fi byth ‘di cael yn broffesiynol a mae ‘di bod yn real pleser gweithio ar y sioe,” meddai.  

Alice Oseman wnaeth ysgrifennu’r nofelau graffeg yn dilyn stori Charlie a Nick, dau fachgen yn eu harddegau sy’n syrthio mewn cariad â’i gilydd.

Yn ystod y gyfres, mae Nick yn ceisio dod i ddeall ei deimladau a dod i delerau gyda’r ffaith ei fod yn ddeurywiol.

“Yr eiliad ddarllenes i’r sgript a darllen y nofel graffeg, nes i sylweddoli pa mor bwerus yw’r stori ‘ma,” meddai Lyn.

Image
Heartstopper - Llun- Netflix.jpg
Mae'r gyfres yn dilyn stori Charlie a Nick wrth iddyn nhw syrthio mewn cariad â'i gilydd. 
Llun: Netflix

'Yr actores fwyaf adnabyddus yn y byd'

Cafodd y gyfres ei rhyddhau ar Netflix ddydd Gwener, gan gyrraedd rhif pedwar yn siartiau'r gwasanaeth ffrydio.

Fe gafodd yr actorion eu castio o 10,000 o bobl, gyda nifer ohonynt yn ymddangos ar y sgrin am y tro cyntaf.

Ond mae yna rhai wynebau cyfarwydd yn y gyfres hefyd megis Olivia Colman a Stephen Fry.

“Nes i weithio gyda hi ar gyfres o’r enw 'Broadchurch' cwpwl o flynyddoedd yn ôl a dethon ni ‘mlaen yn arbennig o dda," meddai Lyn.

“Ond ers hynny ma’ hi ‘di mynd ‘mlaen i fod falle yr actores fwyaf adnabyddus yn y byd i gyd gyda’i holl Oscars a’i enwebiadau a’i llwyddiant anhygoel.

"So pan naethon ni feddwl ynglŷn â pwy oedden ni eisiau i chwarae mam un o’r prif gymeriadau, hi oedd y person cynta’ nes i feddwl am achos bod hi mor wych. 

“Nath hi sgwennu ‘nôl yn gweud ‘Bydden i’n dwlu bod yn rhan ohono fe’, o’dd yn syndod mawr i bawb ond o’n i mor mor falch,” ychwanegodd.

Image
Heartstopper 2 - Llun Netflix.jpg
Dyma rôl deledu gyntaf Joe Locke, sy'n chwarae rhan Charlie.  Llun: Netflix

'Ymateb emosiynol iawn'

Dywed Euros Lyn, sydd hefyd yn un o Gynhyrchwyr Gweithredol y gyfres, ei bod hi wedi bod yn “braf” clywed ymateb pobl ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Ma’ lot o bobl wedi cael ymateb emosiynol iawn, ma’ 'na bobl yn eu arddegau yn hollol falch bo nhw a’u bywydau nhw yn cael eu cynrychioli ar y sgrin, bod eu hunaniaeth hoyw nhw o’r diwedd yn cael ei ddangos mewn ffordd real ar y sgrin.”

Ar hyn o bryd, mae’r darogan a fydd cyfres arall o 'Heartstopper' yn parhau, ond byddai Lyn yn awyddus i fod yn rhan ohoni.

“Dim ond Netflix sy’n gwbod hynny ar y funud.  Mi fydden i’n falch iawn tase ‘na fwy o gyfresi o 'Heartstopper' a fi’n credu o ddarllen a chlywed ymateb bobl i’r gyfres gynta’, fi’n credu bod ‘na awch mas ‘na am ail gyfres.

"Ma’ rhaid ni groesi’n bysedd a gobeithio bydd Netflix yn ‘neud y penderfyniad iawn.”

Prif lun: Sam Arbor

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.