Teyrnged i'r 'fam orau' wrth i'r heddlu lansio ymchwiliad llofruddiaeth ym Môn
Mae teulu dynes a gafodd ei darganfod yn farw yn ei chartref yn Ynys Môn fore Gwener wedi rhoi teyrnged iddi.
Roedd Buddug Jones o bentref Rhydwyn, ger Caergybi yn 48 oed.
Dywedodd ei theulu mewn datganiad: "Buddug oedd y fam, nain a chwaer orau fedrai unrhyw un ofyn amdani. Roedd ganddi wen ar ei hwyneb bob amser ac o hyd yn ofalgar, cariadus ac yn barod i helpu unrhyw un yn enwedig ei theulu oedd hi'n eu caru.
"Mae hi wedi ei chymryd oddi wrthym yn greulon o gynnar ac fe fydd ei meibion, wyrion a brodyr a chwiorydd yn ei gweld eisiau hi bob dydd.
"Gallwn ddweud yn wirioneddol na fydd ein bywydau byth yr un fath hebddi."
Mae swyddogion Heddlu'r Gogledd yn apelio am ddeunydd camera dashfwrdd gan unrhyw un oedd yn teithio yn ardal Gogledd Orllewin Ynys Môn rhwng oriau man bore Gwener ac yn gynnar yn y prynhawn.
Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth a fedrai fod o gymorth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio cyfeirnod B056492.