Pedwar o bobl wedi eu trywanu i farwolaeth yn Llundain

Mae tair menyw ac un dyn wedi marw ar ôl cael eu trywanu yn Llundain.
Cafodd Heddlu'r Met ei galw yn oriau man y bore i dŷ yn Southwark.
Dywedodd yr heddlu bod y merched yn eu 60au, 40au a'u 30au, a bod y dyn yn ei 60au canol.
Er ymdrechion y gwasanaethau brys roedd y pedwar wedi marw yn y fan a'r lle.
Mae'r heddlu wedi arestio dyn yn ei 20au ar amheuaeth o lofruddiaeth. Roedd y dyn yn adnabod y dioddefwyr.
Darllenwch fwy yma.