Gwleidyddion yn llongyfarch Macron am ei fuddugoliaeth arlywyddol

Mae arweinwyr gwledydd ledled y byd wedi anfon eu llongyfarchiadau i Arlywydd Ffrainc Emmanuel Macron wedi iddo gael ei ail-ethol.
Llwyddodd Macron i ddenu 18,779,809 o bleidleisiau, sef 58% o’r bleidlais, o’i gymharu â chyfanswm o 13,297,728 (41.4%) a gafodd yr arweinydd asgell-dde, Marine Le Pen wedi i’r canlyniad gael ei gyhoeddi yn hwyr nos Sul.
Golyga hyn fod Macron, 44, a’i blaid ganolig nawr yn dechrau ar ei ail dymor pum mlynedd o hyd mewn grym.
Wrth i Le Pen ddenu mwy o’r bleidlais nag o’r blaen, addawodd Macron y bydd yn aduno’r wlad sydd wedi ei "llenwi â chymaint o amheuon a chynifer o raniadau".
Darllenwch fwy yma.