Cymro oedd yn gaeth yn Yemen am bum mlynedd wedi ei ryddhau

Mae dyn o Gaerdydd fu'n gaeth yn Yemen am bum mlynedd yn ddi-gyhuddiad wedi ei ryddhau.
Mewn datganiad ddydd Sul, dywedodd gweinidog Tramor Llywodraeth y DU, Liz Truss, y byddai Luke Symons yn cyfarfod ei deulu unwaith eto'n "fuan iawn".
Roedd Mr Symons wedi ei garcharu gan wrthryfelwyr Houthi tra'r oedd yn byw yn y wlad, gan wynebu honiadau o fod yn ysbïwr.
Fe ddiolchodd Liz Truss i'r awdurdodau yn Oman a Saudi Arabia am weithio i sicrhau rhyddid y tad 30 oed, sydd bellach yn cael ei adnabod fel Jamal.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
NEW: Delighted that Luke Symons, who was unlawfully detained, without charge or trial since 2017 in Yemen by the Houthis, has been released and will shortly be reunited with his family. I pay tribute to our Omani and Saudi partners and our team for securing his release. pic.twitter.com/7BZVEXiicf
— Liz Truss (@trussliz) April 24, 2022