Fury'n trechu Whyte gan aros yn bencampwr bocsio pwysau trwm WBC

Fe wnaeth Tyson Fury drechu Dillian Whyte yn yr ornest focsio rhwng y ddau yn Llundain nos Sadwrn, gan gadw ei deitl pencampwr bocsio pwysau trwm WBC.
Llwyddodd Fury i ennill yr ornest yn y chweched rownd o flaen 94,000 o bobl yn Stadiwm Wembley.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Fury'n parhau heb golli gornest yn ei yrfa broffesiynol, gan ennill 32 allan o 33.
Yn dilyn y fuddugoliaeth, fe wnaeth Fury awgrymu ei fod yn bwriadu ymddeol o'r gamp.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
🤴 There has only ever been one... and he goes by the name of @Tyson_Fury! #FuryWhyte pic.twitter.com/ztZY0qK9rB
— Frank Warren (@frankwarren_tv) April 23, 2022
Llun:Wochit