Newyddion S4C

Dyn yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddio merch dwy oed yn Sir Benfro

Pembrokeshire Herald 22/04/2022
Lola James

Mae dyn wedi ymddangos yn y llys ddydd Gwener wedi'i gyhuddo o lofruddio merch dwy oed o Hwlffordd.

Fe wnaeth Kyle Bevan, 30 oed, ymddangos o flaen Llys Ynadon Llanelli fore Gwener ac mae wedi'i gadw yn y ddalfa.

Bu farw Lola James yn yr ysbyty ar 21 Gorffennaf, 2020, pedwar diwrnod ar ôl derbyn anaf difrifol i'w phen yn ei chartref yn nhref Hwlffordd.

Mae Sinead James, 29, wedi ei chyhuddo o achosi neu alluogi marwolaeth plentyn.

Mae disgwyl i'r ddau ymddangos yn Llys y Goron Abertawe fis nesaf.

Darllenwch fwy yma.

Llun: Heddlu Dyfed-Powys

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.