Cadarnhau amser rownd derfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd
Mae UEFA wedi cadarnhau amser rownd derfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd.
Daeth cadarnhad brynhawn Gwener mai 17:00pm ar ddydd Sul, 5 Mehefin fydd Cymru yn herio naill ai'r Alban neu Wcráin yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
⏰ Kick off times are now confirmed for the FIFA World Cup Play-Off Final and UEFA Nations League matches in June. #TogetherStronger
— FA WALES (@FAWales) April 22, 2022
Bydd y rownd gynderfynol rhwng yr Alban a Wcráin yn cael ei chwarae ar 1 Mehefin, gyda Chymru i chwarae'r enillydd yng Nghaerdydd ychydig ddyddiau yn ddiweddarach.
Mae amseroedd gemau Cynghrair y Cenhedloedd hefyd wedi eu cadarnhau.
Dyma drefn ac amseroedd gemau Cymru ym mis Mehefin:
1 Mehefin - Gwlad Pwyl v Cymru (Cynghrair y Cenhedloedd) - 17:00
5 Mehefin - Cymru v Yr Alban / Wcráin (Rownd derfynol gemau ail-gyfle Cwpan y Byd) - 17:00
8 Mehefin - Cymru v Yr Iseldiroedd (Cynghrair y Cenhedloedd) - 19:45
11 Mehefin - Cymru v Gwlad Belg (Cynghrair y Cenhedloedd) - 19:45
14 Mehefin - Yr Iseldiroedd v Cymru (Cynghrair y Cenhedloedd) - 19:45
Pe bai Cymru yn cyrraedd Qatar, byddai tîm Rob Page yn wynebu Lloegr, Iran ac Unol Daleithiau'r America yng Ngrŵp B ym mis Tachwedd.