Prosiect arbennig Clwb Pêl-droed Pwllheli
Mae Clwb Pêl-droed Pwllheli wedi cynnal prosiect celf arbennig mewn ymgais i geisio ymgysylltu â'r holl gymuned - hyd yn oed y rhai sydd ddim yn hoffi pêl-droed.
Mae pobl ifanc y dref a'r ardaloedd cyfagos wedi cydweithio i greu murlun graffiti ar gyfer cae chwarae'r clwb.
Bu'r clwb yn cydweithio gydag Ieuenctid Gwynedd a Heddlu Gogledd Cymru ar gyfer y prosiect, sydd yn ceisio dangos eu bod yn "fwy na chlwb pêl-droed."
“Mae cydweithio gydag Ieuenctid Gwynedd yn profi ac yn dangos ein bod yn agored i holl bobol ifanc cymuned Pwllheli, os ydynt gyda diddordeb mewn pêl droed neu beidio," meddai Chris Williams, un o swyddogion y clwb.
Darllenwch y stori'n llawn yma.