Comisiynydd Plant newydd yn dechrau yn ei rôl
Mae Comisiynydd Plant newydd Cymru wedi dechrau yn ei rôl ddydd Mercher.
Fe gafodd Rocio Cifuentes ei phenodi gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ar ddechrau’r flwyddyn a hi fydd y pedwerydd person yn y rôl.
Pwrpas y comisiynydd yw amddiffyn a hyrwyddo hawliau plant, ac i sicrhau cynrychiolaeth i blant ym mholisïau'r Llywodraeth.
Mae Ms Cifuentes eisoes wedi gadael ei swyddi fel Prif Weithredwr Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST), Cadeirydd Clymblaid Ffoaduriaid Cymru ac fel aelod o bwyllgor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru.
Fe arweiniodd hi EYST ers iddo ffurfio yn 2005, gan ei droi'n brif sefydliad i leiafrifoedd ethnig yn y wlad.
Cafodd ei geni yn Chile cyn symud i Gymru yn blentyn. Fe astudiodd ym Mhrifysgol Caergrawnt ac Abertawe.
Mae’r newid hwn yn nodi diwedd cyfnod Sally Holland fel comisiynydd, ar ôl iddi dreulio saith mlynedd yn y swydd.
Mewn datganiad ar gyfrif trydar y Comisiynydd Plant, fe ddiolchodd Ms Holland i’w thîm, a'r plant a rhieni y mae hi wedi gweithio â nhw yn ystod ei chyfnod.
Mae hi am ddychwelyd i’w hen swydd fel athro gwyddorau cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd.