Hillary Clinton yn ymddangos yng Ngŵyl y Gelli

Bydd cyn Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau Hillary Clinton yn ymddangos yng Ngŵyl y Gelli eleni.
Mae Gŵyl y Gelli yn ŵyl lenyddol sydd yn cael ei chynnal ym Mhowys yn flynyddol.
Bydd Hillary Clinton yn sgwrsio â'r gyfreithwraig Helena Kennedy QC fel rhan o gyfres Women and Power yr ŵyl ddydd Iau 2 Mehefin 2022.
⭐️ NEW ⭐️ EVENT ⭐️ @HillaryClinton, 2 June.
— Hay Festival (@hayfestival) April 19, 2022
Tickets on sale now to Friends of Hay Festival and on general sale this Friday https://t.co/fV2yofiy36 #HayFestival2022 pic.twitter.com/TVaHFPd1NK
Dywedodd cyfarwyddwr yr Ŵyl, Cristina Fuentas La Roche, ei bod yn “anrhydedd” i'w chroesawu.
Darllenwch y stori'n llawn yma.