Anaf i Aaron Ramsey mewn gêm gwpan i'w glwb Rangers

Mae chwaraewyr canol cae Cymru Aaron Ramsey wedi dioddef anaf arall mewn gêm gwpan i'w dîm Rangers yn erbyn Celtic yn yr Alban.
Bu’n rhaid i Ramsey adael y cae yn ystod hanner cyntaf rownd gynderfynol Cwpan yr Alban ym Mharc Hampden ddydd Sul.
Nid yw natur yr anaf yn glir eto ond roedd Ramsey yn dal cefn ei goes.
Bydd hyn yn sicr yn bryder i dîm Rob Page wrth baratoi am rownd derfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd yn erbyn naill ai'r Alban neu Wcráin ar 5 Mehefin.
Darllenwch y stori yn llawn yma.