Newyddion S4C

‘Gall hen domeni glo achosi Aberfan arall’

Mirror 17/04/2022
Pwll glo

Mae arbenigwr ar dirlithriadau wedi rhybuddio gall hen domeni glo yng Nghymru achosi "Aberfan arall.”

Dywedodd Eddie Bromhead, sydd yn gyn athro ar beirianneg geotechnegol, wrth y Sunday Mirror fod bron i 330 o hen domeni glo wedi eu categoreiddio yn swyddogol fel risg uchel.

Dywedodd fod hyn yn golygu eu bod nhw’n medru peryglu bywyd neu eiddo.

Mae stormydd yn gysylltiedig â newid hinsawdd wedi gwneud y tomeni yn fwy bregus.

Fe gollodd 116 o blant a 28 o oedolion eu bywydau pan lithrodd tomen lo ar Ysgol Pantglas ym mhentref Aberfan yn 1966.

Dywedodd yr Athro Bromhead bod trigolion sy’n byw yn agos at hen domeni glo “yn iawn i deimlo’n bryderus.”

Darllenwch y stori yn llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.