Newyddion S4C

'Ansicrwydd' yn y sector twristiaeth yn sgil yr argyfwng costau byw a rhyfel Wcráin

Newyddion S4C 16/04/2022

'Ansicrwydd' yn y sector twristiaeth yn sgil yr argyfwng costau byw a rhyfel Wcráin

Mae busnesau o fewn y sector twristiaeth yn pryderu dros yr effaith gall yr argyfwng costau byw a'r gwrthdaro yn Wcráin gael ar y sector dros benwythnos y Pasg. 

Dyma'r tro cyntaf ers tair mlynedd i dwristiaid gael teithio o amgylch Cymru heb lawer o gyfyngiadau Covid-19. 

Ond er gwaethaf y nifer o ymwelwyr sydd yn dychwelyd, mae rhai busnesau wedi dweud wrth Newyddion S4C fod rhaid iddynt ystyried beth i'w gynnig ac am ba bris, a hynny yn sgil y cynnydd mewn costau byw. 

Yn ôl rhai busnesau, mae'r rhyfel yn Wcráin hefyd wedi cael effaith ar barodrwydd ymwelwyr i wario arian. 

"Dwi'n meddwl bod hi'n mynd i fod yn flwyddyn anodd ofnadwy, yn enwedig ar ôl y pandemig a'r rhyfel a bob dim arall mae'n mynd i fod yn anodd ofnadwy arnom ni," meddai Alun Hughes, sydd yn rhedeg gwesty ym Meddgelert. 

"Mae’n go-lew o brysur efo pobl yn dod yma i weld y pentref, dod oddi ar y trên. Ond fel ma' bookings ni a pobl isio bwyta mae'n ddigon fflat, digon di-galon.

"Dwi'n meddwl bod y rhyfel fyswn i'n deud di upsetio bob dim achos ma'r bookings i lawr yn ofnadwy ers y rhyfel yn Wcráin, ac hefyd dwi'm yn meddwl fod gan bobl arian i wario ar fwyd a diod, achos ma' bob un dim wedi mynd i fyny, o gwrw, i fwyd, i aros yma."

Image
Alun Hughes
Yn ôl Alun Hughes, mae costau byw a'r rhyfel yn Wcrain yn cael effaith ar fusnesau

Mae busnesau ar draws Cymru yn wynebu'r un problemau. 

Mae Richard Griffiths yn rhedeg gwesty yn Aberystwyth ac yn dweud y bydd rhaid i'r busnes wneud newidiadau er mwyn lleddfu effeithiau'r sefyllfa bresennol. 

"Fydd y costau i'r unigolyn yn newid yn y misoedd nesaf, a fyddwn nhw yn fwy barod i weld be gallan nhw gael am eu arian nhw," meddai. 

"A ma' hwnna yn mynd i fod yn ffactor fawr ar y diwydiant yma yng Nghymru."

"Ma' rhaid poeni amdano pethau fel hyn. Ma' rhaid edrych ymlaen i weld be di'r ffactorau sy'n mynd i newid ein busnes. Be di'r amgylchiadau sy'n mynd i fod yn amharu ar ein busnes ni, a sut allwn ni elwa o hyn sy'n digwydd yn y byd tu allan."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.