Yr heddlu'n cymryd camau i atal trafferthion yng Nghaernarfon dros y Pasg

Yr heddlu'n cymryd camau i atal trafferthion yng Nghaernarfon dros y Pasg
Fe fydd Heddlu'r Gogledd yn cyflwyno rhagor o fesurau i fynd i'r afael â phroblemau gwrthgymdeithasol yng Nghaernarfon dros benwythnos y Pasg.
Ymhlith y mesurau ychwanegol mae profi am gyffuriau ar hap a gwneud defnydd o bwerau gwasgaru pe bai angen.
Sicrhau fod pobl yn teimlo'n ddiogel yn y dref yw'r nod yn ôl y Rhingyll Steve Phelps:
“Fyddwn ni'n cydweithio efo swyddogion sydd ar y drysau yr heddlu gwirfoddol, a'r tîm plismona cymunedol i neud siŵr bod 'na fwy o swyddogion o gwmpas canol y dref, yn enwedig o gwmpas y Maes” meddai.
“Gobeithio bydd hyn yn sicrhau bod pobl sydd yn dod yma i gymdeithasu ac i fynd am noson allan dros y penwythnos yma yn teimlo'n saff ac yn ddiogel.”
Mae Heddlu'r Gogledd yn dweud eu bod nhw hefyd yn ymwybodol o bryder am bobl ifanc yn achosi trafferthion yn y dref, gan ddweud eu bod nhw'n gweithio gydag ysgolion yn lleol i atal hyn.