Cymru neu Wrecsam? Cefnogwyr mewn cyfyng-gyngor dros ddwy gêm dyngedfennol
Cymru neu Wrecsam? Cefnogwyr mewn cyfyng-gyngor dros ddwy gêm dyngedfennol
Mae penderfyniad FIFA i newid dyddiad rownd derfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd wedi creu cyfyng-gyngor posibl i gefnogwyr Cymru a Wrecsam.
Bydd yr Alban yn wynebu Wcráin ar 1 Mehefin, gyda'r enilydd yn mynd ymlaen i herio Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 5 Mehefin.
Ond, pe bai Wrecsam mynd yn eu blaenau i rownd derfynol gemau ail gyfle'r Gynghrair Genedlaethol – byddai’r gêm honno'r un dyddiad sef dydd Sul, 5 Mehefin.
Un sydd yn gefnogwr brwd i Wrecsam ac i Gymru yw’r canwr Geraint Lövgreen o Gaernarfon.
Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd Geraint: "Mae hyn wedi troi allan i fod yn newyddion drwg iawn i fi, ac wrth gwrs mae'n siŵr fod yna filoedd o gefnogwyr Wrecsam yn yr un sefyllfa.
"Mae gen' o ni docynnau i gêm derfynol Cymru ers pryd oedd o fod i ddigwydd ond wan mae'n edrych yn debygol iawn bod Wrecsam ddim am ennill y gynghrair ac felly fydda'n nhw yn y gemau ail gyfle, felly mae'n debyg bydd y gemau'r un diwrnod.
"Mae hyn jyst yn neud hi'n anodd iawn i bawb."
Ar hyn o bryd nid oes gwybodaeth ynglŷn â ble fydd gêm Wrecsam yn cael ei chynnal.
Mynd i'r ddwy gêm?
Un posibilrwydd yw y gallai gêm Wrecsam gael ei chynnal yn Ashton Gate, Bryste. Os byddai hi yn cael ei chynnal yn gynnar ar y diwrnod hwnnw – a gêm Cymru yn cael ei chynnal yn hwyr – byddai hynny yn caniatáu i gefnogwyr Wrecsam fynychu gêm Cymru hefyd.
Ychwanegodd Geraint Lövgreen: "Tybed os fydd un gêm am 13:00 a'r llall am 19:00, allwn ni fynd i'r ddwy. Ond dwi ddim yn gwybod. Mae o fyny yn yr awyr.
"Yn ddelfrydol, beth bynnag ddigwyddith, y bydd Cymru wedi ennill y ffeinal a drwodd i Gwpan y Byd yn Qatar a bydd Wrecsam wedi ennill ei ffeinal nhw ac yn mynd fyny i'r ail adran.
"Dyna fysa'r canlyniad delfrydol, pa bynnag gêm da' ni'n llwyddo i wylio neu beidio gwylio."
Mae Wrecsam yn parhau i frwydro i fod yn bencampwyr ond gan eu bod yn parhau wyth pwynt y tu ôl i glwb Stockport County, mae'n edrych yn fwyfwy tebygol mai'r gemau ail-gyfle yw'r llwybr mwyaf tebygol ar gyfer dyrchafiad.
Bydd enillwyr gêm derfynol gemau ail gyfle Cymru yn stadiwm dinas Caerdydd yn gymwys ar gyfer Rowndiau Terfynol Cwpan y Byd FIFA yn Qatar, lle byddan nhw mewn grŵp gyda Lloegr, Iran ac UDA.
O ganlyniad i'r gêm derfynol yn cael ei symud i fis Mehefin, mae gemau Cynghrair Cenhedloedd UEFA Cymru hefyd wedi cael eu heffeithio.