Newyddion S4C

'Trychineb' plannu coed yn ardaloedd prydferthaf Cymru

'Trychineb' plannu coed yn ardaloedd prydferthaf Cymru

Mae elusen gadwraethol yn rhybuddio y gallai rhannau o ardaloedd prydferthaf Cymru wynebu “trychineb” oni bai bod cynlluniau i blannu coed yn cael eu rheoli’n iawn.

Yn ddiweddar, mae sawl cymuned yng nghanolbarth a gorllewin Cymru wedi codi pryderon dros gwmnïau mawr yn prynu ffermydd er mwyn plannu coedwigoedd. 

Yn Ă´l rhai cadwraethwyr, roedd plannu blancedi o goed yn y 1970au a 80au yn gamgymeriad ac mae pryderon y gallai hynny gael ei hailadrodd.

Mae'r cwmnïau yn dweud eu bod yn plannu'r coed er mwyn unioni eu hôl troed carbon. 

Dywedodd Pennaeth Cymdeithas Eryri, John Harold: “Da ni jyst yn dechrau gweld y tap pres yn troi ar. Yn fuan os bydd yna lot o gwmnïau mawr yn trio symud i mewn i’r maes yma o gwrthbwyso carbon, mae hyn yn mynd i fod yn drychineb i dirluniau a tirweddau Cymru.”

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth y Pwyllgor Materion Cymreig alw am ragor o dryloywder wrth i dir ffermio gael ei brynu ar gyfer cynlluniau gwrthbwyso carbon.

Daeth hyn ar ôl adroddiadau y llynedd bod nifer o ffermydd  yn y canolbarth a’r gorllewin wedi eu prynu ar gyfer plannu coed.

Bryd hynny roedd Llywodraeth Cymru’n cynnig hyd at chwarter miliwn o bunnau i bobl blannu coetir newydd mewn ymdrech i gyrraedd targedau net sero. 

'Diddordeb mawr'

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dweud eu bod nhw wedi gweld “diddordeb mawr” gan ddatblygwyr coetiroedd dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn enwedig  gan asiantaethau ar ran cwmnïau mawr o du draw i'r ffin.

Er hyn, nid oes gan yr awdurdod unrhyw rym cynllunio dros blannu coed.

Cyfoeth Naturiol Cymru sydd yn penderfynu os yw'r tir yn cael ei ddefnyddio ar gyfer coedwigoedd. 

Dywedodd Rhys Owen, Pennaeth Cadwraeth ac Amaeth Parc Cenedlaethol Eryri: “Mae yna dipyn o ddiddordeb wedi dŵad i mewn a dipyn o alwadau yn cael eu rhoi ymlaen gyda phobol yn holi beth fyddai’r camau a’r teimlad am blannu yn ardaloedd rownd y parc.

"All y Parc ei hun ddim ei reoli o achos mae plannu coed tu hwnt i'r broses cynllunio.”

Mewn datganiad,  dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod “pob cynllun yn cwrdd â safonau’r diwydiant a’u bod yn gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid lleol, perchnogion tir, a ffermwyr i sicrhau bod effaith unrhyw goetir newydd ar yr ardal yn cael ei ystyried.”

Mewn ymateb i’r pryderon diweddaraf am ardaloedd fel Eryri, mae Llywodraeth Cymru’n dweud y gall plannu coed gynnig cyfle i’r economi wledig. 

Mae’r Llywodraeth hefyd yn dweud eu bod angen “osgoi tir yn cael ei brynu gan gyrff o du allan i Gymru a gweithio gyda ffermwyr a pherchnogion tir eraill i sicrhau nad ydy hynny’n digwydd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.