Rhyddhau fideo o fachgen yn cael ei saethu gan heddlu Chicago

Chicago
Mae’r awdurdodau yn yr UDA wedi rhyddhau fideo o fachgen 13 oed yn cael ei saethu’n farw gan yr heddlu yn Chicago.
Cafodd y fideo sydd yn dangos marwolaeth Adam Toledo ei rhyddhau gan Swyddfa Sifil Atebolrwydd yr Heddlu.
Bu farw’r bachgen ar 29 Mawrth ac mae maer Chicago wedi galw am heddwch wrth i densiynau gynyddu yn y ddinas yn dilyn rhyddhau’r fideo.
Y gred yw mai Adam Toledo oedd y person ieuengaf i gael ei ladd gan yr heddlu yn nhalaith Illinois ers blynyddoedd.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Swyddfa Sifil Atebolrwydd yr Heddlu, UDA