Newyddion S4C

Y cerddor a'r cynhyrchydd Morus Elfryn wedi marw'n 73 oed

Morus Elfryn

Mae'r cerddor a'r cynhyrchydd Morus Elfryn wedi marw'n 73 oed yn dilyn cyfnod o waeledd.

Roedd yn flaenllaw yn nyddiau cynnar y sîn roc Gymraeg, gan ganu gyda bandiau Y Cwiltiaid a'r Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog.

Yn ystod y 70au fe gynhyrchodd nifer o recordiau ar ei ben ei hun gan gynnwys 'I Mehefin (Lle Bynnag y Mae)’ a 'Heibio'r Af'.

Aeth i goleg yn High Wycombe ac yn ddiweddarach fe ymgartrefodd yn Waunfawr yng Ngwynedd. 

Image
Morus Elfryn
Chwaraeodd Morus Elfryn rôl blaenllaw yn y sîn roc Gymraeg

Mewn cyfweliad ar raglen Rhys Mwyn ar Radio Cymru, dywedodd ei fod ef ag aelodau eraill Y Cwiltiaid wedi dewis enw'r grŵp oherwydd bod y tri ohonynt yn byw yn weddol agos at Fanc Siôn Cwilt, Ceredigion.

Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd ei fab, Deian, o Fethel, Caernarfon: "Roedd o wastad yn rhoi ei deulu gyntaf. Oedd o wrth ei fodd yn chwarae'r gitâr a wastad hefo diddordeb efo pob dim oedden ni yn ei wneud.

"Roedd o wrth ei fodd yn bod yn dad-cu hefyd i'n plant ni ac wrth ei fodd yn eu cael nhw o gwmpas."

Dywedodd Deian, sy'n ddrymiwr, fod ei dad wedi bod y "tiwtor gorau" iddo pan oedd yn dechrau drymio a'i fod wedi sylwi ar "wên fawr" ar wyneb ei dad pan chwaraeodd ar lwyfan y Philharmonic yn Lerpwl.

Y byd teledu

Mewn teyrnged iddo, dywedodd un o sylfaenwyr cwmni recordiau Sain, Dafydd Iwan: “Oedd o’n hogyn hyfryd iawn ond yn fachgen reit breifat a dweud y gwir. Fe fuodd o yn gweithio gyda fy mrawd Alun (Ffred Jones) ar C’Mon Midffîld a sawl rhaglen arall.

"Roedd o a rhan bwysig iawn o ran cynhyrchu C’Mon Midffîld fel cynorthwy-ydd cynhyrchu. Roedd o’n saer coed o ran ei grefft ond roedd o’n Mr Fixar yn y byd teledu wrth ddewis lleoliadau set a helpu gosod lleoliadau set i fyny."

Image
Morus Elfryn

Ychwanegodd Dafydd Iwan: “Yr oedd Morus yn chwarae dipyn o ddeuawdau gyda Gareth Hughes-Jones (Nerw) ac roedd Gareth yn cyfeilio ar y gitâr iddo fo ac yn canu ychydig bach o lais cefndir ar ganeuon tebyg i ‘Heibio’r Af."

Mae'n gadael gwraig, Ann, a thri o blant - Deian, Heledd ag Osian, un ŵyr a phum wyres.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.