Newyddion S4C

Teulu dyn fu farw yng ngofal yr heddlu yng Nghasnewydd y llynedd yn galw am atebion

ITV Cymru 22/03/2022
Bashir

Mae teulu dyn fu farw tra yng ngofal yr heddlu yng Nghasnewydd yn dweud nad ydyn nhw'n agosach at ddarganfod beth yn union ddigwyddodd iddo. Bu farw Mouayed Bashir, 29 oed, ar ôl bod yng ngofal yr heddlu fis Chwefror 2021.

Y gred yw iddo brofi cyfnod anodd gyda'i iechyd meddwl pan aeth at yr heddlu. Er na chafodd ei arestio - cafodd eu ddwylo a'u goesau eu clymu gan yr heddlu tra roedden nhw'n aros am ambiwlans. Oriau'n ddiweddarach, bu farw mewn ysbyty.

Yn dilyn ei farwolaeth bu pobl yn protestio ar strydoedd Casnewydd yn galw am atebion. Ond dros 12 mis yn ddiweddarach, mae teulu Mr Bashir yn dweud nad yw eu cwestiynau wedi eu hateb eto.   

Yn ddiweddar bu brawd Mouyed, Mohannad Bashir mewn rali gwrth-hiliaeth yng Nghaerdydd i dynnu sylw at farwolaeth ei frawd.

"Dydyn ni ddim hyd yn oed yn gwybod pryd y bydd y cwest ,” meddai.

“Ond dwi'n trin hyn fel seibiant, cyfle i'r teulu efallai gael ychydig o amser i'w hunan, dod at ein gilydd a pharhau gyda'n bywydau ychydig."

Image
Mohannad Bashir
Mae Mohannad Bashir yn dweud nad yw'r teulu wedi cael atebion 

"Ers y ffordd iddyn nhw drin fy mrawd a fy nheulu, ac wrth gwrs ers cael fy rhoi o dan y chwyddwydr, dydw i ddim yn teimlo'n ddiogel o gwbl i fod yn onest. Mae fy mrawd iau yn teimlo'r un peth. Lle bynnag dwi'n mynd, mae rhaid i mi edrych dros fy ysgwydd, achos efallai fi fydd nesaf."

Mae Heddlu Gwent yn parhau i gydweithio â’r ymchwiliad annibynnol sydd wedi eu sefydlu.

Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Amanda Blakeman:

"Ers marwolaeth drist Mouayed Bashir, rydym wedi cydweithio â Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) i gefnogi eu hymchwiliad.

"Fel y cytunwyd gan y crwner a'r IOPC, mae sawl aelod o deulu Mr Bashir wedi gweld y lluniau oddi ar gamerâu'r heddlu.

"Rydym yn gobeithio bod hyn wedi darparu gwell dealltwriaeth iddynt o'r digwyddiadau ac yn mynd i'r afael â rhai o'r pryderon y maent wedi'u codi gyda'r IOPC.

"Tra bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal, ni allwn wneud unrhyw sylw pellach.

"Rydym wedi gwahodd y teulu i gwrdd â ni i fynd i'r afael ag unrhyw faterion sy'n weddill ar ôl i'r ymchwiliad a'r cwest ddod i ben."

Ymchwiliad 'trylwyr'

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Annibynnol Ymddygiad Yr Heddlu: "Rydym yn cydymdeimlo â theulu Mr Mouayed Bashir.

“Mae ein hymchwiliad trylwyr, annibynnol i farwolaeth Mr Bashir yn agos at ddod i gasgliad. Rydym wedi adolygu ystod o dystiolaeth a gasglwyd gan gynnwys cyfrifon manwl gan y swyddogion dan sylw, cyfrifon gan aelodau o'r teulu, tystiolaeth fideo, radio a chofnodion galwadau.

“Rydym wedi bod yn diweddaru teulu Mr Bashir, y Crwner a Heddlu Gwent drwy gydol yr ymchwiliad.”

Ychwanegodd y llefarydd bod pennu dyddiad i gyhoeddi’r casgliadau yn ddibynnol ar drafodaethau gyda’r crwner.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.