Llofrudd Sarah Everard wedi'i gyhuddo o bedwar cyhuddiad o ddinoethi anweddus

Mae llofrudd Sarah Everard, Wayne Couzens, wedi’i gyhuddo o bedwar cyhuddiad o ddinoethi anweddus.
Roedd y troseddau honedig wedi digwydd rhwng Ionawr a Chwefror 2021, pan oedd Mr Couzens yn swyddog gyda Heddlu'r Met.
Honnir bod y troseddau wedi digwydd cyn llofruddiaeth Ms Everard, fu farw ym mis Mawrth 2021.
Fe fydd Mr Couzens yn ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ar 13 Ebrill.
Darllenwch y stori'n llawn yma.