Newyddion S4C

Cerddor o Wcráin yn cyd-weithio ar gyfansoddiad i S4C

11/03/2022

Cerddor o Wcráin yn cyd-weithio ar gyfansoddiad i S4C

Mae cerddor o Wcráin wedi bod yn cyd-weithio ag artistiaid o Gymru ar gyfer cyfanwaith i S4C.

Roedd y sianel wedi comisiynu gwaith arbennig gan y Prifardd Mererid Hopwood mewn ymateb i’r sefyllfa yn Wrcáin. 

Yn gefndir i'r cyfanwaith, mae'r artist Kostia Lukyniuk wedi cyfansoddi ac yn perfformio'r gerddoriaeth wreiddiol, a ysgrifennodd Kostia wedi iddo ffoi o Kyiv.

"Anfonodd Gruff Lynch neges ataf ar Instagram a fy ngwahodd i gyfansoddi'r trac sain hwn iddo, ar gyfer y gerdd hon am Wcráin sydd wedi cael ei hysbrydoli gan y digwyddiadau yn Wcráin," meddai.

Mae Kostia, sy'n 22 oed, bellach wedi dychwelyd i'w dref enedigol yng ngorllewin y wlad.

Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Roeddwn yn falch fy mod wedi mynd allan cyn gynted ag y gallwn, nawr rydw i yn fy nhref enedigol lle mae'n fwy diogel.

"Rwy'n cynnal digwyddiadau gwahanol ar gyfer ffoaduriaid oherwydd bod ein rhanbarth yn y Gorllewin, mae yn ddiogel ac mae gennym lawer o ffoaduriaid o'r Dwyrain ac o'r rhanbarthau canolog."

Image
Kostia Lukyniuk
Mae Kostia (chwith) yn gerddor sy'n byw yng ngorllewin Wcráin.  Llun: Kostia Violin

'Codi arian'

Bu Kostia yn perfformio mewn cyngerdd arbennig ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn diddanu ffoaduriaid o ganolbarth a dwyrain Wcráin sydd wedi gorfod ffoi o'u cartrefi yn sgil ymosodiadau Rwsia.

Mae'n dweud y byddai'n medru cyfrannu mwy pe bai tu allan i'r wlad yn Ewrop drwy berfformio mewn cyngherddau i godi arian.

"Mae yna gyfraith sydd wedi ei osod, ni all dynion 18 a 60 oed adael y wlad felly ni allaf fynd i unman mewn gwirionedd," ychwanegodd.

"Byswn yn llawer mwy defnyddiol yn rhywle yn Ewrop lle gallwn i chwarae cyngherddau a chodi arian a fyddai'n helpu pobl allan yma.

"Dwi jyst yn gwybod y gallwn i fod yn gwneud cymaint mwy pe bawn i y tu allan i'r wlad."

Image
Kostia Lukyniuk
Bu'n perfformio mewn cyngerdd i ffoaduriaid oedd yn ffoi o ganolbarth a dwyrain Wcráin. Llun: Kostia Violin

'Gweddïo'

Tra bo Kostia yn ymladd dros ei wlad drwy ei gerddoriaeth, mae ganddo deulu a ffrindiau sydd ar y rheng flaen.

"Mae gen i ffrindiau agos i mi sydd ar y rheng flaen, yn amddiffyn ein gwlad gyda reifflau. Mae fy ewythr gwaed yno.

"Rwy'n gweddïo bod pob un ohonyn nhw'n ddiogel a dwi'n gobeithio y bydd y gelyn yn ildio ac yn mynd i ffwrdd, does ganddyn nhw ddim byd i'w wneud yma."

Wrth i'r gwaith gael ei gyhoeddi ar blatfformau S4C ddydd Iau, fe ddywedodd Elen Rhys, Comisiyndd Adloniant S4C ei bod yn "anodd dod o hyd i’r geiriau i gyfleu ein teimladau ar hyn o bryd" wrth feddwl am y sefyllfa yn Wcráin.

"Mae dawn dweud Mereid Hopwood yn crynhoi’r cyfan rhywsut.

"Mae cael Kostia Lukyniuk i gyfansoddi’r gerddoriaeth gefndir yn arbennig ar gyfer y gerdd yn plethu’r cyswllt hefyd rhwng Cymru a Wcrain.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.