'Amser i gerddoriaeth Gymraeg arbrofi gyda genres newydd'
'Amser i gerddoriaeth Gymraeg arbrofi gyda genres newydd'
Mae'n "amser" i gerddoriaeth Gymraeg arbrofi gyda genres newydd, yn ôl un rapiwr sydd wedi mynd yn feiral am berfformio 'drill' yn yr iaith.
Mae fideo Sage Todz, sydd o Ddyffryn Nantlle yng Ngwynedd, wedi cael ei wylio dros 150,000 o weithiau ar Twitter yn y deuddydd diwethaf.
'Drill' yw is-genre o rap Prydeinig sydd yn defnyddio curiadau drymiau cyflym i greu cerddoriaeth egnïol.
Yn ôl Sage, dylai cerddoriaeth Gymraeg groesawu'r defnydd o genres gwahanol a hybu cerddoriaeth Gymraeg mewn steiliau poblogaidd fel 'drill'.
"Mae'n amser, dwi meddwl bod o jyst yn amser," meddai.
"Mae rhan fwya' o bobl ifanc yn gwrando i hip-hop, RnB, drill, rhyw fath o urban music eniwe, dwi ddim yn gweld pam byse neb eisiau neud hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.
"Dwi meddwl bod o jyst yn hen amser i rywbeth fel 'ma dod allan."
'Darn o bwy ydyw i'
Mae Sage, neu Toda Ogunbanwo, wedi bod yn creu cerddoriaeth ers 2018.
Er iddo berfformio yn bennaf yn Saesneg, mae'n dweud bod siarad Cymraeg yn rhan bwysig o'i hunaniaeth.
"Mae'n darn o pwy ydyw i," dywedodd.
"Dwi di byw yna [yng Nghymru] ers dros 15 o flynyddoedd a dwi'n siarad y iaith so oedd o'n amser neud hyn.
"O ni jyst eisiau dangos rhywbeth newydd, eisiau ymuno dau peth o ni'n licio."
Mae'r clip byr wedi cael ymateb anhygoel ar gyfryngau cymdeithasol, gyda nifer o bobl yn galw am fwy o gerddoriaeth 'drill' yn y Gymraeg.
Ever wondered what Welsh Drill would sound like? Well here you go 🙌🏾🙌🏾🏴🏴💯💯 #wales #cymru pic.twitter.com/28OeXPoQna
— Sage todz (@SageTodz) March 8, 2022
Mae Sage wedi'i synnu gan y sylwadau ac yn bwriadu cyhoeddi'r gân Gymraeg yn llawn yn ystod yr wythnosau nesaf.
"O'n i ddim yn disgwyl o!"
"O'n i'n gwybod byse pobl yn y gogledd yn supportio fi, ond o'n i ddim yn fatha 100k ar Twitter, o ni ddim yn disgwyl rhifau fel na.
"Dwi ddim yn gwybod sut i deimlo, mae'n gyffrous...mae rhifau'n iawn ond cawn weld os allai neud rhywbeth ohona fo."
Cafodd albwm cyntaf Sage, 'Sage Mode', ei gyhoeddi'rr wythnos hon ac mae ganddo uchelgais i greu gyrfa yn y byd cerddoriaeth ar ôl graddio.
Mae'n gobeithio ysbrydoli sîn 'drill' Cymraeg newydd gan hybu artistiaid eraill sydd hefyd yn creu cerddoriaeth Cymraeg mewn steil gwahanol.
Dywedodd y gallai creu cerddoriaeth Gymraeg mewn genres poblogaidd hybu'r iaith y tu hwnt i Gymru.
"Dim rili ots os nhw ddim yn dallt dim byd," meddai.
"Mae drill yn chwyddo fyny ymhob un gwlad, mae na drill Eidaleg, drill Sbaeneg, drill Ffrengig.
"So pam sa Cymru ddim yn rhan ohono? So dwi gobeithio 'neud e'n rhywbeth yma."