Rhyfel Wcráin: Yr UDA i wahardd hediadau o Rwsia
02/03/2022Rhyfel Wcráin: Yr UDA i wahardd hediadau o Rwsia
Mae'r Arlywydd Joe Biden wedi cyhoeddi na fydd modd i awyrennau o Rwsia gael yr hawl i hedfan dros ofod hedfan yr UDA, o ganlyniad i'r ymosodiad ar Wcráin.
Wrth draddodi ei araith Cyflwr yr Undeb gyntaf ers cael ei ethol yn arlywydd, dywedodd Mr Biden fod Rwsia wedi gwneud camgymeriad enfawr wrth ymosod ar ei chymydog, ac fe fydd Vladimir Putin yn gorfod "talu pris" am yr hyn y mae wedi ei wneud.
Doedd dim syndod mai'r argyfwng yn Wcráin oedd canolbwynt ei araith, ac fe gyfeiriodd Mr Biden at ddewrder pobl gyffredin y wlad wrth geisio atal yr ymosodiad milwrol gan luoedd Rwsia ar eu tir.
"Credodd (Mr Putin) y gallai rowlio i mewn i Wcráin ac fe fyddai'r byd yn rowlio drosodd. Ond yn hytrach na hynny, fe wynebodd wal nad oedd erioed wedi ei ddychmygu."
The United States of America stands with the Ukrainian people. pic.twitter.com/EXiMnq5RDy
— President Biden (@POTUS) March 2, 2022
Llun: Twitter @POTUS