Newyddion S4C

Daunte Wright: Ail noson o brotest ym Minneapolis

The Guardian 13/04/2021
George Floyd

Mae noson arall o brotestio wedi bod ar strydoedd Minneapolis wedi i'r heddlu saethu dyn du yn y ddinas.

Bu farw Daunte Wright, 20, ddydd Sul.

Cafodd Mr Wright ei dynnu i ochr y ffordd wrth ddreifio, ac fe gafodd ei saethu’n farw ar ôl 'sgyffl' byr gyda'r heddlu, meddai'r Guardian.

Dywedodd pennaeth yr heddlu, Tim Gannon, bod yr heddlu wedi saethu ar "ddamwain."

Mae ei farwolaeth wedi arwain at brotestiadau yn Brooklyn Center, gyda thensiynau yn parhau yn uchel yn ninas Minneapolis wrth i achos Derek Chauvin, cyn-swyddog yr heddlu sydd wedi'i gyhuddo o ladd Geroge Floyd, barhau.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.