Newyddion S4C

Diddymu ffi am drwydded y BBC ym 2027 a rhewi cyllid

The Guardian 16/01/2022
Logo y BBC

Mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi bydd y ffi am drwydded y BBC yn cael ei ddiddymu ym 2027 a bydd cyllid y darlledwr yn cael ei rhewi am y ddwy flynedd nesaf.

Yn ôl y Guardian, bydd ysgrifennydd diwylliant y DU Nadaine Dorries yn cyhoeddi bydd cost y drwydded, sydd ei angen i wylio teledu byw a chyrchu gwasanaethau iPlayer, yn aros yn £159 hyd 2024 cyn cynyddu ychydig am y tair blynedd ddilynol.

Ychwanegodd bydd hyn yn ddiwedd ar y fodel gyfredol ar gyfer y BBC sydd yn codi amheuon am ddyfodol y darlledwr cyhoeddus dan lywodraeth Geidwadol.

Mae hyn yn arwain at ofidion y bydd y BBC yn gorfod torri nôl ar wasanaethau a swyddi.

Darllenwch y stori yn llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.