Newyddion S4C

Miloedd yn chwarae fersiwn Gymraeg o'r gêm boblogaidd 'Wordle'

17/01/2022

Miloedd yn chwarae fersiwn Gymraeg o'r gêm boblogaidd 'Wordle'

Mae arbenigwr ieithyddol sy’n byw yng Nghymru wedi datblygu Gairglo - fersiwn Gymraeg o’r gêm eiriol boblogaidd Wordle.

Dywedodd Dr Rodolfo Piskorski, sy’n wreiddiol o Frasil, ei fod wedi gwneud hynny ar ôl clywed taw Cymro yw Josh Wardle a greodd y gêm.

“Clywais fod datblygwr Wordle yn wreiddiol yn Gymro felly pan oedd yn dechrau dod yn enwog y peth amlwg iawn i fi oedd datblygu fersiwn Cymraeg," meddai Dr Piskorski.

Pawb 'yn chwarae'r un peth'

Gêm ddyfalu gair pum llythyren yw Wordle.  Dyfeisiwyd y gêm am ddim gan y datblygwr meddalwedd Josh Wardle, o Landdewi Rhydderch ger Y Fenni yn wreiddiol ond sy’n byw nawr yn Brooklyn, Efrog Newydd.

Lansiwyd y gêm llynedd ac aeth yn boblogaidd iawn tua diwedd y flwyddyn. 

Erbyn hyn mae miliynau o bobl ar draws y byd yn mwynhau chwarae’r gêm ddyddiol.

Ychwanegodd Dr Piskorski: “Mae gair newydd pob dydd ac mae’n rhaid i chi ddyfalu’r gair gyda chwe chynnig.

“Mae’n rhaid i bob cynnig fod yn air go iawn gyda phum llythyren.

“Mae’n hwyl achos mae pawb sy’n chwarae’r gêm yn chwarae'r un gair yr un pryd.  Felly mae pawb yn chwarae'r un peth ac yn rhwydd rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Mae 2,300 wedi chwarae mewn tri diwrnod. Mae pobl yn chwarae ledled y byd ac mae 10 y cant ohonyn nhw yn yr Almaen.”

Erbyn dydd Llun, mae'r nifer o bobl sydd wedi chwarae Gairglo wedi cynyddu ymhellach i 5,000 ac mae'r gêm wedi cael ei chwarae 12,000 o weithiau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.