Newyddion S4C

Tsunami'n taro Tonga wrth i losgfynydd dan y môr ffrwydro

Sky News 15/01/2022
Losgfynydd yn ffrwydro dan y môr ger Tonga

Mae tonnau tsunami wedi taro Tonga yn ne'r Môr Tawel yn dilyn ffrwydriad llosgfynydd dan y môr.

Roedd lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos tonnau yn llifo trwy’r strydoedd a thai.

Mae llygad-dystion yn adrodd bod lludw o’r llosgfynydd yn cwympo dros y brifddinas Nuku’alofa.

Roedd yr awdurdodau yn Fiji hefyd wedi rhybuddio pobl i gadw draw o ardaloedd arfordirol.

Mae rhybuddion yngynghorol hefyd wedi eu cyhoeddi ar gyfer Hawaii ac arfordir gogledd orllewin yr UDA.

Darllenwch y stori yn llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.