Novak Djokovic yn cael ei gadw mewn gwesty cyn apêl

Mae Novak Djokovic yn cael ei gadw mewn gwesty cyn ymddangosiad llys fydd yn penderfynu a fydd yn cael aros yn Awstralia.
Mae’r chwaraewr tenis o Serbia yn wynebu cael ei yrru o’r wlad ar ôl i’w visa gael ei ganslo am yr eildro.
Mae llywodraeth Awstralia wedi dweud ei fod yn berygl i iechyd cyhoeddus am nad yw e wedi ei frechu yn erbyn Covid.
Mae cyfreithwyr Djokovic yn apelio yn erbyn y penderfyniad gyda gwrandawiad i’w gynnal ddydd Sul.
Darllenwch y stori yn llawn yma.