Newyddion S4C

Eisteddfodau cylch i barhau heb gynulleidfaoedd

Newyddion S4C 15/01/2022

Eisteddfodau cylch i barhau heb gynulleidfaoedd

Bydd dros 220 o Eisteddfodau cylch yr Urdd eleni yn parhau i gael eu cynnal heb gynulleidfaoedd, er bydd cyfyngiadau Covid-19 yn cael eu llacio yng Nghymru dros y pythefnos nesaf. 

Bydd holl gystadlaethau i bobl ifanc rhwng 19 a 25 yn cael mynd yn syth i'r Genedlaethol.

Yn ôl yr Urdd, bydd yr Eisteddfod yn parhau gyda‘r trefniadau, ac yn addasu yn ddibynnol ar y niferoedd fydd yn cofrestru i gystadlu.

Ers dydd San Steffan, mae Cymru wedi bod ar Lefel Rhybudd Dau fel rhan o ymateb y llywodraeth i ledaeniad yr amrywiolyn Omicron. 

Cyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y bydd Cymru yn symud i Lefel Sero erbyn 28 Ionawr os yw'r niferoedd o achosion Covid-19 yn parhau i leihau.

‘Hwyluso’r broses gystadlu’

Ar ôl gohirio’r ŵyl am ddwy flynedd yn olynol mae trefnwyr Eisteddfod yr Urdd yn paratoi ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd, ac yn pwysleisio eu bod am wneud popeth o fewn eu gallu i hwyluso'r broses o gystadlu.

Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd Cyfarwyddwr dros dro yr Eisteddfod a'r Celfyddydau, Siân Eirian, bod addasu trefniadau yn “bwysig”.

“O ran unigolion, unwaith fyddan nhw'n cofrestru, mi fyddan ni'n cyfathrebu apwyntiad lle fyddan nhw’n mynd i gystadlu. 

“Mi fyddan ni'n caniatáu i riant, neu hyfforddwr, neu gyfeilydd mewn achosion hunan ddewisiad i fynd i mewn. Fydd ddim angen i neb oedi ac aros o gwmpas, mi fyddan’n cyhoeddi y canlyniadau ar ddiwedd y dydd.

“O safbwynt cystadlaethau torfol 'dan ni isio neud o mor hawdd â phosib i bawb. Mi fyddan ni yn trefnu mewn rhai achosion bod y beirniad yn gallu ymweld ag ysgolion, yn sicr 'dan ni ddim isio gweld torfeydd yn tyrru i ranbarthau.

 “Fyddwn ni byth yn plesio pawb. Be’ sy'n bwysig ydy bo’ ni yn addasu ar gyfer y cyfnod 'dan ni yn byw yndda fo ar hyn o bryd, a bod y profiadau yma yn cael eu cynnig i'n plant a'n pobl ifanc ni.”

 ‘Ergyd trwm‘

Mae cyfyngiadau Covid-19 wedi effeithio Eisteddfodau lleol hefyd.

Roedd Eisteddfod Gadeiriol Caerdydd i fod i gael ei chynnal wythnos nesaf, ond bu rhaid i‘r trefnwyr ei ganslo. 

Dywedodd Sioned Wyn, Cadeirydd Pwyllgor Eisteddfod Gadeiriol Caerdydd: “O‘dd e'n ergyd eithaf trwm achos llynedd o’ni 'n gwybod byddai dim modd cynnal Eisteddfod, felly oedden ni 'di mynd ati i gynnal Eisteddfod rithiol gyda gwahanol gystadlaethau gwaith cartref.

“Eleni oedden ni'n meddwl bo’ ni 'na. Oedden ni di gweithio’n galed i neud yn siŵr ein bod ni'n cydymffurfio gyda'r rheoliadau Covid, ac wedyn tua mis cyn yr Eisteddfod cael gwybod bod ni ddim yn cael ei chynnal hi. 

“O’dd e'n anodd i ni fel trefnwyr achos gwirfoddolwyr i ni a ni 'di rhoi lot o amser mewn iddo fe.

“Ond o’dd e'r peth iawn i neud yn egwyddorol ac yn gyfreithiol hefyd.”

Mae Sioned Wyn yn pryderu gallai’r pandemig gael effaith niweidiol ar rai Eisteddfodau lleol.

“Falle gallai rhai 'Steddfodau jyst diflannu. 

“Dim ond un Steddfod go iawn i ni 'di cynnal hyd yn hyn, ond ni'n benderfynol o gael un arall.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.