Newyddion S4C

Cerflun dadleuol y BBC wedi’i ddifrodi

The Independent 13/01/2022
S4C

Mae cerflun dadleuol wrth fynedfa i Ganolfan Ddarlledu’r BBC yn Llundain wedi’i ddifrodi gan ddyn â morthwyl.

Defnyddiodd yr unigolyn ysgol i gyrraedd y cerflun gafodd ei gerflunio gan Eric Gill, tra roedd dyn arall yn gweiddi am hanes o bedoffilia y cerflunydd.

Mae’r BBC wedi wynebu galwadau o’r blaen i gael gwared ar y cerflun, Prospero ac Ariel, a gafodd ei osod ym 1933.

Datgelodd dyddiaduron Gill, a gyhoeddwyd degawdau ar ôl ei farwolaeth ym 1940, ei fod wedi cam-drin ei ferched a’i gi teuluol yn rhywiol.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi eu galw i’r lleoliad tua 16.15 nos Fercher a’u bod yn ceisio “cyfathrebu” â’r dyn oedd yn chwifio’r morthwyl.

Mae dyn arall wedi ei arestio ar amheuaeth o gynllwynio i gyflawni difrod troseddol.

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.