'Swm pitw' o arian i daclo ail gartrefi, medd ymgyrchwyr

'Swm pitw' o arian i daclo ail gartrefi, medd ymgyrchwyr

Newyddion S4C 12/01/2022

Mae Llywodraeth Cymru wedi ei chyhuddo o gynnig “swm pitw” o arian i daclo’r “argyfwng” ail gartrefi yng Nghymru.

Mae’r Llywodraeth wedi addo £11m i brynu ac adfer tai yn y rhannau o Gymru sydd wedi eu heffeithio waethaf.

Ond yn ôl y mudiad pwyso a lobio, Dyfodol i’r Iaith, mae angen mwy o weithredu sylweddol ar frys.

Mae’r mudiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i “glustnodi £200m o gyfalaf i’w wario’n bennaf yn yr ardaloedd gorllewinol lle mae’r argyfwng tai ar ei fwyaf dwys”. Byddai hyn yn golygu y byddai “800 o gartrefi yn cael eu prynu neu eu codi.”

Yn ôl Dyfodol i’r Iaith gallai’r tai hynny “ymateb i anghenion lleol” gydag opsiwn i ran-berchnogi tŷ neu sefydlu llety gwyliau dan berchnogaeth gyhoeddus – a’r elw wedyn yn mynd i ariannu tai lleol neu isadeiledd i’r gymuned.

Mae’r mudiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i “gomisiynu astudiaeth fanwl, a hynny ar frys, i botensial ac agweddau ymarferol” y cynigion – a’i chyhoeddi erbyn y Pasg.

Ond yn ôl y mudiad, mae'r arian a glustnodwyd yn cyfateb â phrynu neu godi 44 o dai yn unig.

Image
Ail dai
Mae Llywodraeth Cymru wedi addo £11m i fynd i'r afael ag ail gartrefi yn yr ardaloedd sydd wedi eu heffeithio fwyaf.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oes un ateb syml i daclo’r mater a’u bod nhw’n cyflwyno “cyfres” o fesurau.

Maent yn dweud ei bod wedi “ymroi i ddelifro 20,000 o dai cymunedol, carbon-isel, safon uchel, i’w rhentu yng Nghymru dros y bum mlynedd nesaf."

Ychwanegodd:“Ar ben hynny, rydyn ni wedi darparu £5m ychwanegol y flwyddyn, sy’n dod a’r cyfanswm i £11m yn y flwyddyn ariannol hon yn unig i awdurdodau lleol lle mae cymunedau wedi eu heffeithio gan berchnogaeth ail-gartrefi a llety gwyliau, fel eu bod yn gallu prynu ac adfer tai gwag. Fe fyddwn ni’n monitro’r llwyddiant hyn yn agos.

“Mae hwn yn bwnc cymhleth a does dim ateb syml, dyna pam rydyn ni’n cyflwyno pecyn o fesurau i  weld beth fydd fwyaf effeithiol wrth warchod bywiogrwydd cymunedau Cymru.”

'Boenus o ara deg'

Mae hefyd wedi dod i’r amlwg bod Llywodraeth Cymru eto i benodi dau swyddog i gefnogi peilot, a lansiwyd y mis hwn, i edrych ar y sefyllfa yn Nwyfor.

Dywedodd Rhys Tudur, Cadeirydd Cyngor Tref Nefyn ac aelod o'r grŵp ymgyrchu Hawl i Fyw Adra, mae’n broses “boenus o ara deg” o ran y peilot.

“Mae dal yn ansicr iawn beth sy’n cael ei gynnwys yn y peilot ei hun. A thra bod mwy o arafwch mae mwy o dai yn mynd o afael pobl leol," meddai.

Mae yntau’n galw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o arian i daclo’r sefyllfa, gan feirniadu’r £1m a addawyd ar gyfer prynu ac adfer tai yn benodol o fewn yr ardal beilot yn Nwyfor gan y Gweinidog, Julie James.

Image
Ail dai
Mae ail gartrefi yn bwnc sydd wedi ei grybwyll fel rhan o gytundeb cydweithredu Llafur a Phlaid Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod £11m bellach wedi ei glustnodi ar gyfer prynu ac adfer tai o fewn yr ardal beilot ac yn fwy cyffredinol ar draws cynghorau Gwynedd, Môn, Ceredigion, Sir Gâr a Sir Benfro.

Ym mis Tachwedd, fe addawodd cytundeb cydweithredu newydd Llafur a Phlaid Cymru i gymryd “camau brys a radical” i fynd i’r afael ag ail-gartrefi.

Ddiwrnod yn ddiweddarach, wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chynllun ar gyfer taclo ail-gartrefi, fe gyhoeddodd y Gweinidog Julie James y byddai dwy ran i’r gwaith.

Byddai'r rhan gyntaf yn cynnwys ardal beilot yn Nwyfor, fyddai’n cyflogi dau swyddog i gefnogi a datblygu cynlluniau yn yr ardal, yn ogystal ag arian ychwanegol i’r cynghorau sy’n cael eu heffeithio waethaf.

Byddai’r ail ran yn ymwneud ag ymgynghoriadau mwy hirdymor ar rymoedd i gyfyngu ar greu ail-gartrefi a chartrefi newydd a mwy o rymoedd amrywio trethi yn lleol.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, byddai’r peilot cychwynnol yn “adeiladu ar y gefnogaeth ymarferol mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ei gynnig i fynd i’r afael â fforddiadwyedd ac argaeledd tai ac yn cael ei deilwra i ateb anghenion pobl yn yr ardal,” ac y byddai “dwy swydd benodol i gefnogi gwireddu’r peilot.”

Wedi i Newyddion S4C ofyn pam nad oedd y ddwy swydd hynny wedi cael eu hysbysebu eto, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y “peilot ail-gartrefi yn Nwyfor wedi ei lansio'r mis hwn, mewn cydweithrediad a phartneriaid.

"Rydyn ni’n gweithio gyda nhw tuag at recriwtio’r ddwy rôl allweddol a rhoi gwerthusiad angenrheidiol o’r peilot yn ei le.”