Heddlu yn ystyried ymchwilio i barti diodydd yng ngardd Rhif 10

Carrie Symonds a Boris Johnson
Mae Heddlu'r Met yn ystyried ymchwilio i barti honedig a ddigwyddodd yn Rhif 10 Downing Street yn ystod y cyfnod clo cyntaf.
Cafodd mwy na 100 o bobl eu gwahodd i "wneud y mwyaf o'r tywydd braf" gyda diodydd yng ngardd Rhif 10 ym mis Mai 2020, gan gynnwys y Prif Weinidog a'i wraig.
Mae Boris Johnson nawr yn wynebu galwadau o Dŷ'r Cyffredin i esbonio pam aeth i'r parti ar adeg pryd roedd cymysgu cymdeithasol wedi'i wahardd.
Yn ôl Sky News, mae Scotland Yard hefyd yn ystyried ymchwilio i'r achos.
Mae ymchwiliad mewnol i honiadau o bartïon eraill yn Downing Street ar ddiwedd 2020 eisoes ar waith.
Darllenwch y stori'n llawn yma.