Cynlluniau i leihau'r pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal
Fe fydd pobl yn cael eu cefnogi i fyw'n annibynnol yn dilyn cyfnod yn yr ysbyty dan gynlluniau newydd y llywodraeth.
Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi £12.5m ychwanegol i gefnogi'r ymdrech honno, gan gynnwys helpu fferyllfeydd i gefnogi mwy o bobl i gadw'n iach heb fod angen gweld meddyg teulu.
Gobaith y llywodraeth yw y bydd yr arian yn helpu i leihau'r pwysau ar y system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Bydd y rhan helaeth o'r arian - £10 miliwn - yn mynd at y 22 awdurdod lleol er mwyn ei rannu â phobl sydd ag anghenion gofal er mwyn iddyn nhw gael byw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.
Bydd £2.5 miliwn o'r arian yn mynd at gefnogi fferyllwyr a chleifion gyda'r gobaith o wella mynediad at driniaeth a chyngor ar gyfer nifer o anhwylderau cyffredin.
'Helpu ni i'ch helpu chi'
Daw'r cyhoeddiad gan y Gweinidog Iechyd ddiwrnod wedi i'r Ceidwadwyr Cymreig gyhoeddi'u Cynllun Mynediad at Feddygon Teulu.
Fel rhan o'r cynllun hwnnw, mae'r Ceidwadwyr yn galw am wella mynediad at apwyntiadau, mesurau i amddiffyn staff rhag camdriniaeth ac ehangu rôl fferyllfeydd cymunedol i leihau'r pwysau ar feddygon teulu.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan: "Mae’r pwysau sy’n wynebu’r system iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i fod yn heriol iawn."
"Mae angen i bob un ohonom gydweithio i gefnogi ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gan ein helpu ni i’ch helpu chi y gaeaf hwn.
“Gall pethau syml fel mynd i’r fferyllfa leol neu i uned mân anafiadau i gael cyngor ar bryderon iechyd nad ydynt yn ddifrifol, gwirio symptomau ar-lein gan ddefnyddio gwefan GIG 111 Cymru neu gael brechlyn COVID wneud gwahaniaeth mawr i’n GIG a helpu pobl i edrych ar ôl eu hiechyd y gaeaf hwn."