Newyddion S4C

Teulu Mohamud Hassan yn apelio am fwy o atebion blwyddyn ers ei farwolaeth

Golwg 360 09/01/2022
Mohammed Hassan

Mae teulu Mohamud Hassan wedi galw ar yr heddlu i gyhoeddi'r lluniau camera o'r noson fu farw ar ôl cael ei ryddhau o'r ddalfa.

Cafodd Mr Hassan, 24, ei arestio ar amheuaeth o darfu ar yr heddwch ym mis Ionawr 2021.

Cafodd ei ryddhau yn ddigyhuddiad ond bu farw'r diwrnod wedyn gan sbarduno protestiadau ar strydoedd Caerdydd. 

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn ymchwilio i ymddygiad chwe swyddog mewn perthynas â'r achos. 

Ond mae teulu Mr Hassan wedi cyhuddo'r IOPC o'i rhwystro rhag cael mynediad at luniau o'r noson bu farw. 

Dywedodd yr IOPC bod "adroddiad ymchwiliad sylweddol" yn cael ei gwblhau a "bron â dod i ben".

Darllenwch y stori yn llawn yma.

Llun: Llun Teulu

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.