Newyddion S4C

Liz Truss yn 'fodlon' defnyddio Erthygl 16 os yw trafodaethau Brexit yn methu

The Guardian 09/01/2022
Liz Truss

Wrth baratoi am drafodaethau Brexit yr wythnos hon, mae ysgrifennydd tramor y DU Liz Truss yn dweud ei bod hi’n barod i ddefnyddio Erthygl 16 o brotocol Brexit Gogledd Iwerddon os ydy trafodaethau yn pallu.

Bydd gweithredu Erthygl 16 yn atal rhan o’r cytundeb Brexit sydd yn atal ffin galed rhwng Gogledd Iwerddon a'r Weriniaeth.

Yn ôl The Guardian, dywedodd Ms Truss mai ei blaenoriaeth yw gwarchod cytundeb heddwch Iwerddon ond mae'n "fodlon" defnyddio'r erthygl os na chaiff cytundeb ei gytuno. 

Dywedodd y byddai’n awgrymu “cynigion adeiladol" mewn trafodaethau gyda’r Undeb Ewropeaidd yr wythnos hon.

Liz Truss sydd yn arwain y trafodaethau yn dilyn ymddiswyddiad yr Arglwydd Frost fis diwethaf.

Darllenwch y stori yn llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.