Newyddion S4C

Cae ym Mlaenau Ffestiniog wedi'i enwi fel un o'r 100 gaeau pêl-droed gorau ym Mhrydain

09/01/2022

Cae ym Mlaenau Ffestiniog wedi'i enwi fel un o'r 100 gaeau pêl-droed gorau ym Mhrydain

Be sydd gan Ibrox, Celtic Park, Anfield a chae pêl-droed Cae Clyd, ym Mlaenau Ffestiniog yn gyffredin?

Mae nhw i gyd wedi cael eu cynnwys ar restr o’r 100 o gaeau pêl-droed gorau gan y cylchgrawn Four Four Two.

Nid bod hynny yn synnu pobl fel Dewi Prysor, un o ymddiriedolwyr Clwb Pêl-droed Amaturiaid Blaenau Ffestiniog, ac sydd hefyd yn gyfrifol am olygu cylchgrawn y clwb.

Mae’r clwb yn chwarae yng Nghynghrair Ardal y Gogledd Orllewin sydd yn nhrydydd haen y system yng Nghymru.

Er eu bod tua gwaelodion y gynghrair ar hyn o bryd, mae Dewi a chefnogwyr eraill y clwb wrth eu boddau gyda’r newyddion am lwyddiant eu cartref yng Nghae Clyd.

Mae lleoliad Cae Clyd yn un trawiadol iawn gyda’r Moelwynion – sef tri chopa - Moelwyn Bach, Moelwyn Mawr a Moel-yr-Hydd – yn gefndir eiconig a dramatig i’r maes chwarae.

Image
Dewi Prysor
Dywedodd Dewi Prysor bod pobl yn dod o draws y wlad i weld Cae Clyd

Dywedodd Dewi fod gan y clwb ei rinweddau eraill hefyd – fel clwb cymunedol sy’n estyn croeso cynnes i ymwelwyr ledled Prydain.

Mae’n cael ei adnabod fel lle da i gael paned a brechdan bacwn hefyd, meddai.

“Rai blynyddoedd yn ôl daeth y ground hoppers (cefnogwyr sy’n hoffi ymweld â gwahanol glybiau ar hyd a lled y wlad) yma . . . ac roedd yna tua 1,500 o gwmpas y lle ac roeddan nhw i gyd wedi gwirioni efo’r cae a’r olygfa a’r croeso cynnes oedden nhw yn ei gael geno ni.

“Ac ers hynny mae yna ground-hoppers yn dod mewn grwpiau bach ac fel unigolion ac mae nhw wrth eu bodda ac yn tynnu a rhannu eu lluniau.”

Mae nifer hefyd yn prynu paned, rhaglen a het a sgarff y clwb meddai.

Mae gan y clwb griw da o ffyddloniaid sy’n gofalu am Cae Clyd a’r eisteddle i ymochel rhag y glaw.

Ychwanegodd Dewi: “Y dorf ydi ein 12fed dyn ond y tywydd – y glaw a’r gwynt ydi ein 13fed dyn!”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.