Covid-19: Pedwerydd brechiad yn ddiangen yn ôl arbenigwyr

Brechiadau yn erbyn Covid-19 yn parhau.
Nid oes angen pedwerydd brechiad yn erbyn Covid yn ôl ymgynghorwyr iechyd llywodraeth y DU, y JCVI.
Yn ôl The Telegraph, dywedodd arbenigwyr mae’r brechiadau atgyfnerthu yn parhau i gynnig amddiffyniad cryf yn erbyn yr haint ymysg pobl fregus.
Mae data gan asiantaeth diogelu iechyd y DU yn dangos fod pobl dros 65 oed yn 90% llai tebygol o angen triniaeth ysbyty tri mis ar ôl derbyn y brechiad.
Daw'r dystiolaeth wrth i ddata newydd dangos fod y nifer yn ysbyty gyda Covid-19 yn y DU 12 gwaith yn is ar hyn o bryd i gymharu â chyfnod y gaeaf llynedd.
Darllenwch y stori yn llawn yma.