Newyddion S4C

Gareth Bale yn ystyried dod nôl i chwarae yng Nghymru

Nation.Cymru 08/01/2022
Gareth Bale

Gall Gareth Bale ystyried ymuno â thîm pêl droed yng Nghymru os fydd Cymru’n llwyddo i gyrraedd Cwpan y Byd yn Qatar yn hwyrach yn y flwyddyn.

Mae'r ymosodwr wedi gweld hi'n anodd gyda'i glwb Real Madrid dros y blynyddoedd diwethaf ac mae ei gytundeb yn Sbaen yn dod i ben ar ddiwedd y tymor. 

Yn ôl Nation.Cymru mae Bale, 32, yn ystyried ymuno â Chaerdydd neu Abertawe, os fydd Cymru yn llwyddo i gyrraedd ei Gwpan y Byd cyntaf ers 1958. 

Yn ôl adroddiadau mae Bale yn awyddus i gynrychioli Cymru yn Qatar yn hwyrach yn y flwyddyn ond yn ystyried ymddeol ar ddiwedd y tymor os na wnaiff Cymru lwyddo i gyrraedd y twrnamaint. 

Mae Cymru yn wynebu Awstria yng Nghaerdydd ym mis Mawrth yn rownd gyntaf y gemau ail-gyfle. 

Darllenwch y stori yn llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.