Cynllun yn hybu bwyd lleol i ymwelwyr â’r gogledd
Mae cynllun newydd yn ceisio sicrhau mai cynnyrch Cymreig fydd ymwelwyr i dai gwyliau yn y gogledd yn ei fwyta i’r dyfodol.
Menter Môn sydd yn gyfrifol am y cynllun gwerth £400,000 – gan ddarparu hamperi a brandio’r bwydydd yn y gobaith mai prynu’n lleol fydd yr ymwelwyr i’r ardal.
Mae bwyty Dylan’s ym Mhorthaethwy yn gyrchfan boblogaidd i bobol leol a thwristiaid fel ei gilydd, ac fe fydd y cwmni’n cynhyrchu bwyd ar gyfer yr hamperi.
Mae’r cwmni yn un o saith o gynhyrchwyr drwy Fôn, Gwynedd a Chonwy fydd yn cydweithio efo Menter Môn i geisio creu marchnad newydd i gynnyrch lleol.
Mae degau o filoedd o dwristiaid yn heidio i’r gogledd i dai hunan arlwyo ac yn ôl arbenigwyr yn y maes, mae ‘na alw mawr am gynnyrch lleol o bob math.
Mae arian sylweddol yn cael ei wario ar y cynllun a’r gobaith yw na fydd angen pecynnau pwrpasol yn y dyfodol ar ôl i'r ymwelwyr flasu'r hyn sydd gan gynhyrchwyr lleol i'w gynnig.