Newyddion S4C

Clwb rygbi yn cynnal munud o dawelwch i gofio ‘un o’r hogia’

08/01/2022

Clwb rygbi yn cynnal munud o dawelwch i gofio ‘un o’r hogia’

Bydd clwb rygbi yng Ngwynedd yn cynnal munud o dawelwch i gofio am un o’i gyn-chwaraewyr a chefnogwr brwd ddydd Sadwrn.

Bu farw Iwan Gwyn, 49 oed mewn damwain jet ski ar ynys ger Accra, prifddinas Ghana, ar 30 Rhagfyr.

Roedd yn wreiddiol o bentref Llanaelhaearn ac wedi byw yn Ghana ers dros naw mlynedd.

Roedd yn ŵr i Annie ac yn dad i dri o blant sef Ben, Megan a Laura.

Image
S4C
Iwan Gwyn a'i wraig Annie.

Munud o dawelwch

Mae Clwb Rygbi Pwllheli wedi trefnu munud o dawelwch cyn gemau’r tîm cyntaf a’r ail dîm ddydd Sadwrn er cof am Iwan Gwyn.

Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd Wil Martin, Cadeirydd Clwb Rygbi Pwllheli bod colled Iwan yn “sioc fawr, ac yn drist iawn.”

“'Dan ni fel clwb ddim jyst yn ei barchu fo ond bydd colled fawr ar ôl yr agosrwydd o honna fo fel unigolyn.

“Medrai ond ei ddisgrifio fo fel un o’r hogia, bydda ni’n ei gofio fo am fod yn un o’r hogia ffyddlon o’r timau.”

"'Dani fel clwb yn cydymdeimlo'n llwyr efo'r gollad i'w deulu yn y wald yma ac wrth gwrs yn Ghana hefyd, ei wraig a'i deulu bach yn fa'na. Felly ia, 'dani'n teimlo drostyn nhw ac jyst biti mawr na alla'n ni neud ddim mwy na fedran ni."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.