
Cofio eira mawr 1982 40 mlynedd yn ddiweddarach

Cofio eira mawr 1982 40 mlynedd yn ddiweddarach
Mae dydd Iau yn nodi 40 mlynedd ers eira mawr 1982 yng Nghymru.
Ar ddydd Iau, 7 Ionawr 1982 gwelwyd eira yn disgyn yn ddi-stop am 36 awr yng Nghymru.
Mae’n cael ei gofio fel un o’r stormydd eira gwaethaf yr 20fed ganrif.
Gwelwyd hyd at 19 troedfedd o eira ar draws rhannau o’r wlad.
Achosodd yr eira drafferthion ar draws Gymru gyfan, gan achosi i ysgolion i gau am bron i bythefnos.
Roedd yn rhaid i draffordd yr M4 gau, a disgynnodd to pafiliwn Gerddi Sophia yng Nghaerdydd o ganlyniad i bwysau trwm yr eira.

Cymunedau yn dod ynghyd
Defnyddiwyd hofrenyddion achub o RAF Fali Ynys Môn a Sir Benfro er mwyn mynd â phobl i'r ysbyty a helpu ffermwyr, gan geisio atal eu hanifeiliaid rhag rhewi i farwolaeth.

Dywedodd un person o Rydaman a gafodd ei holi ar y pryd iddo fynd allan i helpu dosbarthu bwyd i gartrefi’r henoed.
“Fuodd Heddlu Dyfed Powys wedi gofyn i ni'n Rhydaman i ddod lan gan bod cerbyd pedair 'wheel' 'da ni i ôl burum oherwydd bod yr tai hen bobl a'r cartrefi hen bobl wedi rhedeg mas o fara a bod y poptyau yn ardal Rhydaman a dim rhagor o furum i ddodi yn y bara.”
Credwyd bod y tymheredd yng Nghymru ar y pryd yn is na -20C (-4F).