Liam Williams i symud i Rygbi Caerdydd o'r Scarlets ar ddiwedd y tymor
Bydd y chwaraewr rygbi Liam Williams yn symud o un rhanbarth Cymreig i un arall wrth iddo gyhoeddi y bydd yn ymuno â Rygbi Caerdydd ar ddiwedd y tymor.
Dim ond bedair gwaith mae'r cefnwr wedi chwarae i'r Scarlets ers ail-ymuno gyda'r rhanbarth yn 2020.
Dechreuodd ei yrfa gyda'r tîm o'r gorllewin yn 2011 a chwaraeodd rhan ganolog yn y garfan a enillodd y Pro12 yn 2017.
Fe wnaeth Williams adael Cymru i ymuno â chlwb y Saracens ar gyfer tymor 2017/18 cyn dychwelyd i'r Scarlets dair blynedd yn ddiweddarach.
Scarlets can confirm that Liam Williams will be leaving @scarlets_rugby at the end of the 2021-22 season to join Cardiff Rugby
— Scarlets Rugby (@scarlets_rugby) January 6, 2022
Mae’r Scarlets yn cadarnhau bydd Liam Williams yn gadael y Scarlets ar ddiwedd tymor 2021-22
Story ➡️ https://t.co/mlFmxMaAkk pic.twitter.com/c0Z2B6PWw7
"Mae hyn wedi bod yn benderfyniad anodd iawn i'w wneud," meddai Williams wrth gyhoeddi y bydd yn gadael y rhanbarth.
"Dwi'n ddiolchgar i'r Scarlets am roi gymaint o gyfleoedd i mi a byddai'n parhau i roi popeth i'r tîm yn ystod gweddill fy amser yma."
Williams yw'r trydydd enw adnabyddus o garfan Cymru i symud i Gaerdydd cyn y tymor nesaf, gan ymuno gyda Taulupe Faletau a Thomas Young yn y brifddinas.
Llun: Huw Evans Picture Agency