Newyddion S4C

Carwyn Jones yn croesawu cydweithio gwleidyddol yn y Senedd

ITV Cymru 06/01/2022

Carwyn Jones yn croesawu cydweithio gwleidyddol yn y Senedd

Mae cyn-Brif Weinidog Cymru wedi dweud ei fod yn croesawu’r ffaith fod y blaid Lafur wedi gorfod cydweithio gyda phleidiau eraill ers dechrau datganoli.

Dywedodd Carwyn Jones wrth raglen Y Byd yn ei Le ar S4C fod cydweithio rhwng pleidiau “yn beth call”.

Roedd Mr Jones yn siarad ar ddechrau blwyddyn fydd yn nodi 100 mlynedd ers i’r blaid Lafur ennill mwyafrif o seddi yng Nghymru am y tro cyntaf.

“I fi beth dyle pleidiau eraill ei wneud yw apelio mwy at pobl yn lle cwyno bo nhw ddim yn cael y pleidleisiau,” ychwanegodd.

Daw sylwadau’r cyn-Brif Weinidog wedi i’r Blaid Lafur a Phlaid Cymru ddechrau ar Gytundeb Cydweithio, fydd yn canolbwyntio ar nifer o bolisïau gwahanol.

Fe fydd y rhain yn cynnwys darparu prydau ysgol am ddim i bob ysgol gynradd a diwygio’r Senedd.

Roedd Carwyn Jones yn Brif Weinidog ac yn arweinydd ar Lafur Cymru rhwng 2009 a 2018.

Roedd ganddo dipyn o brofiad o weithio gyda phleidiau eraill fel rhan o’i lywodraethau.

Fe ddechreuodd ei gyfnod wrth y llyw drwy barhau â chlymblaid â Phlaid Cymru tan 2011.

Rhwng 2016 a 2018, arweiniodd Carwyn Jones glymblaid arall rhwng Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol, gyda chefnogaeth yr AS annibynnol Dafydd Elis-Thomas.

“Ers ’99 dyw’r blaid Lafur byth erioed wedi ennill mwyafrif,” meddai.

“Ni wastad wedi gorfod cydweithio gyda pleidiau eraill a wi’n croesawu hwnna, wi’n credu bo hwnna’n peth call.”

Gallwch wylio'r cyfweliad llawn gyda Carwyn Jones yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.